Isaac

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Mab i Abraham. Ystyr ei enw ydy “mae un yn chwerthin”.
• Roedd Abraham a’i wraig Sara wedi mynd yn rhy hen i gael plant, ond anfonodd Duw negeswyr atyn nhw i ddweud y bydden nhw’n cael bachgen bach. Roedd Sara yn hapus iawn o glywed hyn. Doedd hi ddim yn gallu credu’r peth, achos bod hi mor hen. Ond daeth popeth yn wir. Pan gafodd y bachgen ei eni, chwarddodd Sara o hapusrwydd.
• Cafodd Abraham ei roi ar brawf gan Dduw pan ofynnodd iddo ladd Isaac fel aberth.
• Enw gwraig Isaac oedd Rebeca. Cawson nhw ddau fab, efeilliaid o’r enw Esau a Jacob.
(gweler Genesis 17:19-21;18:1-15; 21:1-22:19; 24:4-28:13; 35:12-29; 46:1; 48:15-50:24; Mathew 1:2; 8:11;22:32; Marc 12:26;Luc 3:34; 13:28;20:37; Actau 3:13;7:8,32; Rhufeiniaid 9:7,10; Galatiaid 4:28; Hebreaid 11:9,17-20; Iago 2:21)