Jacob

 

Cymeriad yn yr Hen Destament, o gyfnod y Patriarchiaid. Mab Isaac, ŵyr i Abraham, efaill i Esau.
• Cymerodd enedigaeth-fraint ei frawd oddi arno, yr hyn oedd i fod i fynd yn naturiol i’r mab hynaf. Yna cyn i’w dad farw, twyllodd Isaac i roi ei fendith arno ef ac nid Esau. Roedd hynny’n golygu bod Jacob yn cael dwywaith yn fwy o etifeddiaeth na’i frawd. Bu’n rhaid i Jacob ddianc, oherwydd fod Esau ei frawd mor flin am yr hyn oedd wedi digwydd.
• Aeth i Haran a byw yno gyda theulu ei ewythr Laban. Mae hanes ei fywyd priodasol yn gymhleth. Cafodd 12 mab ac un ferch, trwy ddwy wraig - Lea a Rachel, a dwy gaethferch, Bilha a Silpa. Enwau’r meibion oedd Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Sabulon, Dan, Nafftali, Gad, Aser, Joseff a Benjamin,.
• Fel ei daid/dad-cu Abraham, cafodd Jacob enw newydd gan Dduw – Israel, enw sy’n golygu “mae’n ymgodymu (wrestlo) gyda Duw”.
• Daeth yr enw Israel i olygu cenedl Israel. Mae enwau meibion Jacob yn enwau ar ddeuddeg llwyth (teulu) Israel. Daeth Joseff, hoff fab Jacob, yn enwog iawn – dyma’r Joseff gafodd siaced liwgar gan ei dad. Cafodd Joseff ei werthu gan ei frodyr ac aeth i fyw i’r Aifft a dod yn swyddog pwysig yno. Pan ddaeth newyn i’r wlad, symudodd Jacob i’r Aifft ar wahoddiad Joseff a bu farw yno.
(gweler Genesis 25:19–35:29; 46–50; Mathew.1:2; 8:11; 22:32; Marc 12:26: Luc 1:33; 3:34; 13:28; 20:37; Ioan 4:5-12; Actau 3:13; 7:8-46; Rhufeiniaid 9:13; Hebreaid 11:9-21)
 

 

Tad-yng-nghyfraith Mair mam Iesu Grist. Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu yn Efengyl Mathew.
(gweler Mathew 1:15,16)