Jairus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu ar y ddaear. Roedd Jairus yn rheolwr synagog - ac fel rhan o’i waith byddai’n arwain addoliad y synagog, ac yn dewis pobl i ddarllen, gweddïo a phregethu yn gyhoeddus yno. Roedd ganddo ferch 12 oed oedd yn sâl iawn, felly aeth Jairus at Iesu i ofyn am ei help. Ar y ffordd i dŷ Jairus, oedodd Iesu i iacháu gwraig arall, ac erbyn iddo gyrraedd tŷ Jairus, roedd y ferch fach wedi marw, a phawb yn galaru. Dywedodd Iesu mai cysgu oedd hi, ond doedd neb yn ei gredu. Aeth Iesu at y ferch, gyda’r rhieni, a tri o’i ddisgyblion agosaf, Pedr, Iago a Ioan. Cydiodd Iesu yn llaw’r ferch, a daeth yn ôl yn fyw. Mae’r ferch fach yn gymeriad canolog yn y ffilm Gŵr y Gwyrthiau sy’n cyflwyno hanes Efengyl Marc wedi ei hanimeiddio.
(gweler Marc 5:22; Luc 8:41)