Jeconeia

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o’r cyfnod yn union cyn y Gaethglud.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu. Enw arall ar Jehoiachin ddaeth yn frenin ar Jwda (tua 609 – 598 C.C.) wedi marwolaeth ei dad Jehoiacim. Dyma’r cyfnod pan roedd Babilon yn ymosod ar Jwda, a chafodd y bobl a’r brenin eu caethgludo i Fabilon. Cafodd llestri’r deml eu cymryd o Jerwsalem gan y Babiloniaid hefyd.
• Roedd Jeremeia yn proffwydo yn ystod y cyfnod hwn.
(gweler 1 Cronicl 3:16/17; Esther 2:6; Jeremeia 24:1; 27:20-29:2;Mathew 1:11/12)