Jehosoffat

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y deyrnas ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Ystyr ei enw ydy “mae Duw wedi barnu”.
• Jehosoffat, mab Asa, oedd pedwerydd brenin Jwda (872 – 848 C.C.). Ceisiodd roi diwedd ar y ffraeo rhwng Israel a Jwda wrth ddod i gytundeb priodasol rhwng ei fab Jehoram ac Athalia, merch y brenin Ahab a Jesebel.
• Roedd am weld Duw yn cael ei anrhydeddu. Ceisiodd gael gwared o addoliad paganaidd yn y wlad. Trefnodd i Gyfraith Duw gael ei dysgu i’r bobl, ac ad-drefnodd system gyfreithiol y deyrnas drwy osod barnwyr ym mhob un o ddinasoedd pwysicaf Jwda, gyda rhyw fath o Lys Apêl yn Jerwsalem. Bu’n rhaid iddo amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiadau o’r tu allan.
(gweler 1 Brenhinoedd 15:24;22:2-51; 2 Brenhinoedd 1:17; 3:1-14; 8:16;12:18; 1 Cronicl 3:10; 2 Cronicl 17:1-22:9; Mathew 1:8)