Roedd Jeremeia’n proffwydo am 40 mlynedd o tua 626 i 587 C.C. Cafodd ei alw i fod yn broffwyd pan yn fachgen ifanc. Cafodd amser caled iawn – cafodd ei wawdio, ei guro a’i garcharu a bron cael ei ladd am gyhoeddi neges Duw. Roedd Jeremeia ei hun yn stryglo hefyd. Mae’n dadlau, a hyd yn oed yn gwylltio gyda Duw, ac yn dweud y byddai’n well ganddo farw. Doedd ganddo ddim eisiau cyhoeddi neges mor dywyll. Byddai’n well ganddo gau ei geg, ond mae’n dweud fod neges Duw fel tân yn llosgi tu mewn iddo. Roedd yn cyhoeddi fod gwlad Jwda yn mynd i gael ei chosbi am ei phechod. Byddai’r Babiloniaid creulon yn ymosod ar y wlad, a fyddai dim yn eu rhwysto – cytundebau gwleidyddol a help gan yr Aifft, na’u crefydda arwynebol. Ac wrth gwrs, daeth proffwydoliaeth Jeremeia yn wir – mae’r bennod olaf yn disgrifio sut wnaeth byddin Babilon goncro a dinistrio Jerwsalem.
Jeremeia
|
Cymeriad yn yr Hen Destament yn ystod y cyfnod pan oedd y Babiloniaid ar fin caethgludo pobl Jwda. Proffwyd gafodd ei fagu yn fab i offeiriad yng nghylch Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i broffwydo pan oedd yn ifanc iawn. Bu’n proffwydo am tua 40 o flynyddoedd (626 – 585 C.C.) yn ystod teyrnasiad pum brenin diwetha teyrnas Jwda (sef Joseia, Jehoahas, Jehoiacim, Jehoiacin a Sedeceia). |