Jericho

 

• Mae dinas Jericho yn ddinas enwog iawn yn yr Hen Destament. Mae yna dystiolaeth archeolegol fod pobl yn byw yn Jericho 10,000 o flynyddoedd yn ôl, ond mae lleoliad y ddinas wedi newid o leiaf ddwywaith. Mae’r archeolegwyr sy’n cloddio ar safle yr hen Jericho wedi darganfod o leiaf 23 haen yn cynrychioli gwahanol gyfnodau hanesyddol.
• Dyma’r ddinas gafodd ei choncro gan Josua a’i ddynion wrth iddyn nhw gerdded o amgylch y muriau uchel a gweiddi’n uchel (Josua 6). Ar ôl concro Jericho, aeth yr Israeliaid ymlaen i goncro gweddill gwlad Canaan, y wlad roedd Duw wedi ei gaddo iddyn nhw. Yn Deuteronomium 34 adnod 3 mae Jericho yn cael yr enw “dinas y palmwydd”. Roedd yn ddinas hen iawn tua 15 milltir i’r gogledd ddwyrain o Jerwsalem a 5 milltir i’r gorllewin o’r Iorddonen. Mae rhai pobl yn meddwl mai tomen Tell es-Sultan ydy safle’r hen ddinas. Mae olion archeolegol tua dau ddwsin o ddinasoedd hynafol iawn, wedi eu hadeiladu a’u dinistrio, un ar ben y llall. Roedd waliau cryf, dwbl gan lawer o’r dinasoedd hyn. Ystyr y gair Jericho, mae’n debyg, ydy Dinas y Lleuad, ac efallai fod y ddinas yn ganolfan i gwlt addoli’r lleuad ar un adeg.
• Erbyn cyfnod Iesu, roedd dinas newydd wedi ei hadeiladu gan Herod Fawr ychydig i’r de o’r hen safle. Adeiladodd Herod balas iddoi’i hun yno ar gyfer misoedd y Gaeaf. Mae rhai yn credu mai tomen Talul Abu el-’Alayiq ydy safle Jericho Herod Fawr. Bu farw Herod yno yn 4 C.C. Roedd gerddi addurniadol yn y palas gyda dyfrbont (aqueduct) yn cario dŵr i gadw’r planhigion yn fyw. Roedd y ffordd o Jericho i Jerwsalem (17 milltir) yn codi o 800 troedfedd o dan lefel y môr i 2,500 uwchben lefel y môr. Roedd yn dir creigiog ac unig iawn – lle ardderchog i ladron. Defnyddiodd Iesu y ffordd rhwng Jericho a Jerwsalem yn ei ddameg, Stori’r Samaritan Trugarog. Dros y blynyddoedd mae Jericho wedi dirywio, ac mae tywod yr anialwch wedi gorchuddio’r tir oedd ar un adeg yn ffrwythlon iawn.
• Yn Jericho, helpodd Iesu bobl dlawd a chyfoethog. Rhoddodd ei olwg yn ôl i un cardotyn, ac arhosodd gyda Sacheus, un o bobl gyfoethocaf y ddinas gan newid ei fywyd.
• Pentref er-Riha sy heddiw wrth safle’r hen Jericho. Mae tua 2 cilomedr o’r Jericho fodern.
(gweler Mathew 20:29; Marc 10:46; Luc 10:30; 18:35; 19:1; Hebreaid:11:30)