Jerwsalem

• Mae Jerwsalem yn un o ddinasoedd enwocaf y byd. Mae’n ddinas sanctaidd i Gristnogion, Iddewon a Moslemiaid.
• Mae Jerwsalem wedi ei hadeiladu ar dir uchel ym mryniau Jwdea, 30 milltir o Fôr y Canoldir. I’r dwyrain mae Dyffryn Cidron a Mynydd yr Olewydd, ac i’r de orllewin mae’r Wadi al Rababi (Dyffryn Hinnom yn y Beibl). Mae llethrau serth yn amddiffyn Jerwsalem ar dair ochr y ddinas (i’r de, y gorllewin a’r dwyrain).
• Mae’r enw Jerwsalem yn golygu “dinas heddwch”. Mae hefyd wedi cael ei galw yn Salem, Ariel, Jebus, dinas Duw a’r ddinas sanctaidd.
• Mae hanes cynhyrfus iawn i ddinas Jerwsalem.
 Pan gyrhaeddodd yr Israeliaid wlad Canaan yn amser Josua, roedd y Jebusiaid yn byw yn Jerwsalem o dan y brenin Adonisedec. Concrodd Josua y brenin, ond llwyddodd e ddim i gymryd y ddinas oherwydd bod amddiffynfeydd Jerwsalem mor dda.
 Llwyddodd y brenin Dafydd i goncro’r ddinas tua 1000 C.C. drwy anfon milwyr i mewn i’r ddinas trwy’r twnelau oedd yn cario dŵr i mewn i’r ddinas. Adeiladodd allor yno a chadw Arch y Cyfamod mewn pabell arbennig. Daeth Jerwsalem yn brifddinas i’r brenin Dafydd.
 Adeiladodd Solomon, mab Dafydd, deml hardd yn Jerwsalem tua 1010 C.C. Daeth y ddinas wedyn yn ganolbwynt i ddefodau crefyddol yr Iddewon. Roedd yn rhaid dod i’r Deml yn Jerwsalem i aberthu i Dduw.
 Ar ôl i’r deyrnas rannu yn ddwy (Jwda, teyrnas y De, ac Israel, teyrnas y Gogledd) yng nghyfnod Rehoboam, mab Solomon tua 930C.C., cafodd Jerwsalem ei choncro gan Eifftiaid, Assyriaid a brenhinoedd teyrnas Israel yn eu tro. Tua 588 CC, ar ôl gwarchae o dair blynedd, cafodd y ddinas ei dinistrio gan filwyr Nebuchadnosor (gweler 2 Brenhinoedd 2, a Jeremeia 39). Cafodd yr Iddewon eu halltudio i Fabilon.
 Ar ôl tua 70 o flynyddoedd, tua chanol y bumed ganrif C.C., o dan arweiniad pobl fel Esra a Nehemeia ac eraill daeth yr Israeliaid yn ôl i Jerwsalem a dechrau ailadeiladu waliau’r ddinas a’r deml.
 Cafodd Jerwsalem ei rheoli gan ymerodraeth Persia tan 331C.C. pan ymosododd Alexander Fawr a’r Groegiaid a chipio’r ddinas. Yna yn 167C.C., wedi gwrthryfel o dan arweiniad Jwdas y Macabead daeth Jerwsalem o dan reolaeth yr Asmoniaid. Concrodd y Rhufeiniaid Jerwsalem tua 63 C.C. a daeth Herod Fawr i reoli. Dechreuodd Herod ailadeiladu’r ddinas, gan gynnwys y Deml. Roedd y gwaith ailadeiladu ar y Deml yn dal i fynd ymlaen yn amser Iesu Grist. Roedd Teml Jerwsalem yn adeilad rhyfeddol.
 Ar ôl i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn y Rhufeiniaid cafodd Jerwsalem a’r Deml eu dinistrio yn 70 O.C.. Dyn pryd y daeth trefn offeiriadol a system aberthu y grefydd Iddewig i ben.
 Yn 132 O.C. ailadeiladodd yr Ymerawdwr Hadrian y ddinas fel dinas baganaidd o’r enw Aelia Capitolina. Cafodd yr Iddewon eu gwahardd o’r ddinas tan gyfnod Cystennin yn y bedwaredd ganrif O.C.
 Yn 326 O.C. aeth Helena, mam yr ymerawdwr Cystennin ar bererindod i Jerwsalem er mwyn gweld safleoedd enwog y Beibl. Adeiladodd eglwys ym Methlehem, uwchben lle cafodd Iesu ei eni yn ôl traddodiad. Adeiladodd Cystennin eglwys hefyd uwchben y bedd lle cafodd Iesu, yn ôl traddodiad, ei gladdu. Cafodd yr eglwys ei chysegru yn 335 O.C. Rhoiodd Cystennin ganiatâd i’r Iddewon symud yn ôl i fyw i Jerwsalem.
 Cafodd y Rhufeiniaid eu concro gan y Persiaid yn 614 O.C., ac yna yn 637O.C cyrhaeddodd y Moslemiaid a rheoli’r ddinas tan yr unfed ganrif ar ddeg. Mae Mosg wedi ei adeiladu ar safle’r hen Deml – y Dôm ar y Graig – sy hefyd yn cael ei alw yn Fosg Omar. Y Califf Omar adeiladodd y mosg yn 691 O.C.. Dyma lle, yn ôl traddodiad, aeth Mohammed i fyny i’r nefoedd.
 Ar ôl i’r Tyrciaid ddod i reoli’r ddinas ar ddechrau’r unfed ganrif ar ddeg, penderfynodd rhai Cristnogion bod yn rhaid ymladd yn erbyn y Moslemiaid er mwyn adennill y ddinas sanctaidd. Yn 1099 O.C., ar ôl brwydr ffyrnig iawn pryd cafodd llawer iawn o Foslemiaid eu lladd, cafodd y croesgadwr Godfrey o Bouillon ei goroni yn frenin Jerwsalem. Newidiodd Mosg Omar i fod yn eglwys gadeiriol Gristnogol. Cafodd llawer o eglwysi a lleiandai eu hadeiladu yn ystod y cyfnod hwn.
 Yn 1187 cipiodd Saladin y Swltan y ddinas oddi ar y Cristnogion ac ers hynny mae Jerwsalem wedi bod yn nwylo’r Moslemiaid yn bennaf hyd heddiw. Ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cipiodd lluoedd Prydeinig y ddinas a rheoli o 1917 i 1948. Pan sefydlwyd gwladwriaeth Israel, cafodd Jerwsalem ei rhannu rhwng yr Arabiaid a’r Iddewon.
• Mae dŵr wedi bod yn broblem i ddinas Jerwsalem o’r cychwyn. Mae llawer o dwnelau wedi eu cloddio o dan y ddinas i gario dŵr o ffynhonnau Gihon (ffynnon sy’n cael ei galw’n Ffynnon Fair neu’n Ffynnon y Forwyn heddiw) Yn yr 8fed ganrif C.C. gwnaeth y brenin Heseceia waith mawr yn torri twnelau dyfnach er mwyn cario dŵr i Bwll Siloam yn Jerwsalem. Aeth y Rhufeiniaid ati i adeiladu dyfrbont (aquaeduct) 42 milltir o hyd i gario dŵr o Hebron i Jerwsalem. Mae llawer o olion hen gafnau a thanciau dŵr i’w gweld yn Jerwsalem oherwydd roedd pobl y ddinas yn gorfod casglu dŵr glaw yn gyson.
• Erbyn heddiw, mae’r Jerwsalem fodern wedi ei hadeiladu ar ben haen ar ôl haen o rwbel dinasoedd cynharach. Mae’n anodd iawn gwneud gwaith ymchwil archeolegol yno oherwydd bod cymaint o safleoedd ac adeiladau sy’n gysegredig i Gristnogion, Iddewon a Moslemiaid. Mae waliau canoloesol y ddinas i’w gweld o hyd, ac olion waliau hŷn, ond mae’r arbenigwyr yn gorfod dyfalu union safle waliau Jerwsalem yn amser Dafydd, neu Nehemeia, neu yn amser y Testament Newydd oherwydd bod ffiniau’r ddinas wedi newid cymaint dros y canrifoedd. Mae’r Iddewon yn dal i fynd i weddïo wrth Fur yr Wylofain. Mur yr Wylofain ydy’r unig ran sydd ar ôl o Deml Herod Fawr. Mae Iddewon yn dod yno i weddïo, i ddarllen yr Ysgrythur, ac i wylofain oherwydd bod y Deml wedi ei dinistrio.
(gweler Mathew 4:5; 5:35; 15:1; 16:21; 20:17, 18; 21: 1, 10; 23:37; 27:53; Marc 1:5, 8; 3:22; 7:1; 10: 32, 33; 11:1, 11, 15, 27; 14:13; 15:41; 16:12. 13; Luc 2:22-45; 4:9; 6:17; 9:31, 51, 53; 10:30, 38; 13:22, 30-34; 17:11; 18:11; 19:11, 28, 29, 41; 21:20, 24; 23:7,19,28; 24:13,18,33, 47, 52; Ioan 1:19; 2:13, 23; 3:22; 4:20, 21, 45; 5:1, 2; 7:25; 10:22; 11:18,55; 12:12, 15, 20; Actau 1:4, 8, 12, 19; 2:5, 14; 4:5,16; 5:16, 28;6:7;8:1, 14, 25, 26, 27; 9:1, 13, 21, 26, 28, 39; 11:1, 22, 27, 31; 12:25; 13:13, 27, 31; 15:2, 4, 23, 33; 16:4; 18:22; 19:21; 20:16, 22; 21:4, 8, 11, 12, 13, 15, 17, 31; 22:3, 5, 17, 18; 23:11, 31, 32; 24:6, 11, 17; 25:1, 6, 7, 8, 9, 15, 20, 24; 26:4, 10, 20; 28:17;Rhufeiniaid 9:33; 11:26; 15:19, 25, 26, 31; 1 Corinthiaid 16:3: 2 Corinthiaid 8:4, 19; 9:1, 11; Galatiaid 1:17, 18: 2:1, 12; 4:25, 26; Hebreaid 12:22; 1 Pedr 2:6; Datguddiad 3:12; 21:2, 10)