Joanna

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Gwraig i ddyn o’r enw Chwsa oedd yn swyddog i Herod Antipas. Mae hi’n un o’r merched gafodd eu hiacháu gan Iesu. Roedd y merched yma yn teithio gyda Iesu a’i ddisgyblion – efallai yn gofalu am fwyd ac ati. Roedd Joanna yn un o’r gwragedd aeth at y bedd ar ôl i Iesu gael ei groeshoelio a’i gladdu er mwyn eneinio’r corff. Dywedodd wrth eraill fod Iesu wedi atgyfodi.
(gweler Luc 8:3; 24:10)