Job

Mae’n bosib mai llyfr Job ydy un o’r storïau hynaf yn y Beibl, yn mynd yn ôl 2000 o flynyddoedd cyn Crist.

Mae Job yn ffermwr cyfoethog sy’n byw yn rhywle o’r enw Us.  Roedd yn ddyn da a duwiol, ond mae Duw yn rhoi caniatâd i Satan ei brofi.  Canlyniad hynny ydy ei fod yn colli popeth – ei anifeiliaid i gyd (miloedd ohonyn nhw), ac yn waeth na hynny, ei blant.  Mae hefyd yn cael ei daro gan afiechyd ofnadwy, ond er gwaetha’r cwbl mae Job yn gwrthod beio Duw.

Ar ôl peth amser mae’n dechrau gofyn pam mae Duw yn gadael iddo ddiodde mor ofnadwy.  Mae’r rhan fwyaf o’r llyfr yn ddeialog rhyngddo â’i “ffrindiau” sy’n dweud mai’r unig esboniad ydy ei fod yn pechu.  Ond yn y diwedd mae Duw ei hun yn siarad ar ei ran, ac hefyd yn dangos ei fawredd ei hun i Job.  Dydy Duw ddim yn esbonio pam mae Job yn diodde, ond yr awgrym ydy ei fod yn gofyn i Job ei drystio.

Diwedd y stori ydy fod Duw yn bendithio Job eto gyda iechyd, cyfoeth a theulu.

Pwy?

Wyddon ni ddim pwy ysgrifennodd y llyfr, ond roedd y person yn awdur galluog iawn. Mae rhan fwyaf o’r llyfr wedi ei ysgrifennu mewn barddoniaeth, ac mae’n darllen fel drama fawr, yn dweud hanes y prif gymeriad, Job.  Dyma amlinelliad o’r stori:-

  • Mae Job yn ddyn da iawn, ond mae’n wynebu pob math o helynt a dioddef – colli ei gyfoeth, ei deulu a’i iechyd.
  • Dydy Job ddim yn deall pam bod Duw yn gadael i hyn ddigwydd iddo fe.
  • Mae’r darllenydd yn cael gwybod fod Duw’n ceisio profi i Satan bod ffydd Job yn ffydd go iawn – dydy Job ddim yn credu jyst achos bod ei fywyd yn fywyd braf a chyfforddus.
  • Mae 3 ffrind yn dod at Job i’w gysuro wrth iddo ddioddef, ac maen nhw hefyd yn trafod pam fod Job yn wynebu’r trafferthion hyn.  Mae’r ffrindiau yn cysylltu dioddefaint Job gyda’i ddrygioni (pechod), ond mae Job yn gwrthod hynny.
  • Mae cymeriad newydd, Elihu yn ymddangos ac yn gwneud nifer o anerchiadau – ond dydy e ddim yn gallu ateb y cwestiwn pam fod dyn da fel Job yn dioddef.
  • Yn y diwedd mae Duw’n siarad gyda Job – ac mae hynny’n newid agwedd Job. Mae’n gweld mawredd Duw ac yn ymddiried ei fywyd yn llwyr iddo.
  • Yn y diwedd mae Job yn profi llwyddiant a hapusrwydd eto. Mae’n cael teulu newydd ac yn dod yn berchennog mwy o anifeiliaid nag oedd ganddo i ddechrau.

 

Pryd?

Wyddon ni ddim pwy ydy awdur llyfr Job, felly dydyn ni ddim yn gallu dweud pryd cafodd y llyfr ei ysgrifennu.

 

Pam?

Mae’r llyfr yn delio hefo cwestiwn sydd wedi poeni pobl ar hyd y canrifoedd – os ydy Duw yn dda ac yn deg, pam fod e’n gadael i bobl ddiniwed a da ddioddef?  

Does dim ateb hawdd i’r broblem hon yn ôl yr awdur. Yn y diwedd allwn ni ddim deall rhai pethau, maen nhw y tu hwnt i feddwl pobl, ond lle mae rheswm yn methu, mae gan ffydd ateb.

Yn y diwedd mae Job yn cael perthynas a chymdeithas gyda Duw, mae’n gweld ei fawredd ac yn  clywed ei lais – ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth i’w fywyd. Mae’n dysgu ymddiried yn Nuw.

 

Yn ystod ei helyntion mae Job yn dweud:

"Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud,

‘Gad i ni fynd i gyfraith!’

O na fyddai canolwr rhyngon ni,

i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni!

Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i

fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen."

 

Mae’r Testament Newydd yn dweud wrthon ni fod rhywun wedi dod yn ganolwr rhwng pobl a Duw – Iesu Grist. Cafodd mab Duw ei eni fel person i’r byd, ac fe wnaeth e ddioddef yn ofnadwy er mwyn achub pawb sy’n barod i roi eu bywyd iddo. Does dim rhaid i ni ddychryn ac arswydo o flaen Duw os ydyn ni’n credu Iesu.  Fe allwn ni droi at Iesu ac at Dduw pan dyn ni’n mynd trwy amser anodd mewn bywyd, achos mae Duw yn gwybod am boen a dioddef –  achos fe wnaeth Iesu wynebu anawsterau a phoen yn ystod ei gyfnod ar y ddaear. Sylweddoli hyn wnaeth i emynydd o’r enw Ann Griffiths ysgrifennu,

"Mae’n ddyn i gydymdeimlo

â’th holl wendidau i gyd.

Mae’n Dduw i gario’r orsedd

ar ddiafol, cnawd a byd."

 

Cymeriad yn yr Hen Destament – mae llyfr Job yn dweud ei hanes. Mae cyfeiriad ato hefyd yn llythyr Iago yn y Testament Newydd.
Roedd Job yn ddyn cyfoethog iawn, yn byw yng ngwlad Us, ac roedd ganddo le pwysig yn y gymdeithas. Mae’r hanes yn pwysleisio ei fod yn ddyn doeth iawn hefyd. Yn ôl y stori, mae Satan yn cael caniatâd gan Dduw i ddwyn popeth oddi arno – ei gyfoeth, ei ddeg plentyn a’i iechyd. Pan mae hyn yn digwydd, mae pobl yn meddwl ei fod yn cael ei gosbi am bechod mawr, ac yn ei daflu allan o’r dref. Mae hyd yn oed ei wraig yn dweud wrtho am felltithio Duw er mwyn iddo gael marw. Wedyn mae tri ffrind i Job yn dod i’w weld, ond does ganddyn nhw ddim byd gwell i’w ddweud wrtho. Y cwbl maen nhw’n gallu ei wneud ydy cadw cwmni iddo ar domen ludw y tu allan i’r ddinas am saith diwrnod. Mae’n nhw’n doethinebu am y rhesymau tu ôl i ddioddefaint Job, ond dydyn nhw ddim help iddo go iawn. Yna mae dyn ifanc o’r enw Elihu yn ymuno hefo nhw. Mae Elihu yn ymddangos yn ddyn hyderus iawn, ac yn rhoi pwyslais mawr ar y ffaith fod Duw yn rheoli popeth. Yn y diwedd mae Duw ei hun yn siarad hefo Job, ac mae Job yn cydnabod mawredd Duw fel brenin sy’n rheoli popeth. Mae Job yn edifarhau ac yn teimlo tangnefedd yn ei galon, ac mewn amser mae Duw yn ei adfer ac yn dyblu’r cyfoeth a gollodd, yn rhoi deg plentyn arall iddo yn lle’r deg fu farw, ac yn ei iacháu.
(gweler llyfr Job; Iago 5:11)