Joel

Does neb yn siŵr pryd yn union roedd Joel yn proffwydo.  Mae’n defnyddio’r darlun o bla o locustiaid i ddisgrifio barn Duw ar ei bobl anufudd.  Mae’r pla dinistriol yma yn rhybudd i’r bobl fod ‘dydd yr ARGLWYDD’ yn dod, pan fydd Duw yn eu barnu nhw am eu pechod.  Ond mae hefyd yn her iddyn nhw ac yn alwad ar iddyn nhw newid eu ffyrdd.  Mae Joel hefyd yn disgrifio’r fendith ysbrydol fyddai’n dilyn petaen nhw’n ufudd iddo. (Pan gafodd y Cristnogion cynnar eu llewni â’r Ysbryd Glân ar Ddydd y Pentecost, mae Pedr yn dyfynnu adnodau o Joel i esbonio beth oedd yn digwydd.)

 

Proffwyd yn yr Hen Destament.
• Enw ei dad oedd Pethuel.
• Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad i fywyd Joel.
• Mae ei lyfr yn rhybuddio bod Duw yn mynd i farnu’r genedl, ac mae’n galw ar y bobl i edifarhau a troi at Dduw mewn diwrnod cenedlaethol o weddi.
• Yn y llyfr mae yna ddisgrifiad byw iawn o bla o locustiaid, a’r effaith gafodd y pryfaid ar y wlad.
• Mae Joel hefyd yn sôn y bydd Duw ryw ddiwrnod yn anfon ei Ysbryd, nid ar offeiriaid a phroffwydi yn unig, ond ar bobl gyffredin, dim ots os ydyn nhw’n ddynion neu ferched, os ydyn nhw’n hen neu’n ifanc, a dim ots ychwaith i ba ddosbarth maen nhw’n perthyn mewn cymdeithas. Daeth hyn yn wir ar ddydd y Pentecost, pan ddisgynnodd yr Ysbryd Glân ar yr apostolion yn gyntaf, ac yna ar bobl eraill ddaeth i gredu yn Iesu Grist.
(gweler llyfr Joel; Actau 2:16)