Jopa

 

• Ystyr yr enw ydy “harddwch”
• Jaffa ydy’r enw modern ar y dref heddiw.
• Tref yn nhir llwyth Dan (tir gafodd ei roi i deulu Dan, mab Jacob ar ôl i’r Israeliaid gyrraedd Canaan wedi iddyn nhw ddianc o wlad yr Aifft gyda Moses). Mae rhwng Cesarea a Gasa, 30 milltir i’r gogledd orllewin o Jerwsalem.
• Porthladd pwysicaf Jwdea – yn y gorffennol ac yn y presennol.
• Daeth yn dref Iddewig yn yr ail ganrif C.C.
• Mae’r dref wedi cael ei choncro, ei dinistrio, ei llosgi ac yna ei hail adeiladu llawer iawn o weithiau.
(gweler Actau 9:36, 38, 42; 10:5,8,9,23,32; 11:5,13)