Joseff o Arimathea

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu.
• Iddew o Arimathea sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn da oedd yn disgwyl am deyrnas Dduw
• Roedd yn aelod o’r Sanhedrin, cyngor neu lys pwysicaf yr Iddewon oedd yn cyfarfod yn Jerwsalem, felly mae’n rhaid ei fod yn ddyn reit bwysig. Mae Luc yn nodi fod Joseff yn un o’r rhai hynny wnaeth ddim cefnogi penderfyniad y Sanhedrin i ddal a lladd Iesu.
• Roedd Joseff yn credu yn Iesu, ond ddim yn agored, oherwydd fod ganddo ofn ymateb ei gyd-Iddewon.
• Mae’r ffaith ei fod wedi gofyn i Peilat am gorff Iesu er mwyn ei gladdu mewn defnyddiau drud, ac mewn bedd oedd yn eiddo iddo, yn dangos ei fod yn ddyn cyfoethog.
(gweler Mathew 27:57-60; Marc 15:42-46; Luc 23:50-53; Ioan 19:38-42)