Josua

Josua gafodd ei ddewis gan Dduw i arwain pobl Israel drwy’r Afon Iorddonen i goncro’r tir roedd e wedi ei addo iddyn nhw.  Roedd Duw ei hun yn eu harwain ac yn rhoi llwyddiant iddyn nhw pan oedden nhw’n ufudd iddo.  Ond mae un neu ddau o hanesion yn y llyfr lle roedden nhw’n anufudd ac yn gweithredu ar eu liwt eu hunain, a dyna pryd roedd pethau’n mynd o chwith.  Roedd Duw wedi gorchymyn fod y paganiaid yn Canaan i gael eu difa’n llwyr am eu drygioni. Doedd e ddim am i’w bobl ddechrau ymddwyn yr un fath â nhw, ac addoli eilun-dduwiau ffals.  Mae hanner cynta’r llyfr yn son am yr ymgyrchoedd milwrol, a’r ail hanner yn dweud sut roedd y tir i gael ei rannu rhwng y gwahanol lwythau (er nad oedd y tir i gyd wedi ei goncro eto).  Mae llyfr Josua yn cloi gyda’r bobl yn ymrwymo i fod yn ffyddlon i Dduw.

Pwy?

Mae traddodiad Iddewig yn enwi Josua ei hun fel awdur y llyfr (ar wahân i’r adran olaf sy’n disgrifio marwolaeth a chladdu Josua), ond mae’r llyfr mor hen mae’n amhosib i ni wybod yn iawn pwy oedd yr awdur.  Mae’r disgrifiadau a’r wybodaeth o fewn y llyfr yn fanwl, ac mae gwaith ymchwil archeolegol wedi cadarnhau llawer  o’r cynnwys.

Cafodd Josua ei eni yn yr Aifft pan oedd yr Israeliaid yn gaeth yno, ac fe ddaeth yn brif gynorthwywr Moses yn ystod yr exodus.  Roedd yn un o’r 12 ysbïwr gafodd eu hanfon gan Moses i gasglu gwybodaeth am wlad Canaan. O’r deuddeg ysbïwr, dim ond Josua a Caleb oedd â digon o ffydd a dewrder i ddweud y dylai’r bobl symud ymlaen a mentro i mewn i’r wlad newydd – ac oherwydd hynny fe gafodd y ddau oroesi’r 40 mlynedd dreuliodd yr Israeliaid yn crwydro’r anialwch.  Wedi i Moses farw, cafodd Josua ei ddewis yn arweinydd,  gyda Duw yn rhoi’r addewid hwn iddo, "Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn a panicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!” Josua 1.9

 

Pryd?

Mae’n amhosib i ni ddweud pryd cafodd y llyfr ei ysgrifennu. Mae rhai yn barod i dderbyn bod Josua wedi ysgrifennu’r llyfr tua 1400 cyn Crist, ond mae eraill yn credu mewn rhoi dyddiad llawer mwy diweddar, efallai yn ystod cyfnod cynnar y frenhiniaeth.

 

Pam?

Mae’r llyfr yn dweud hanes y cyfnod o farwolaeth Moses hyd at farwolaeth Josua. Cawn weld Josua yn arwain yr Israeliaid i wneud addewid Duw am gartref a gwlad newydd yn realiti. Fe wnaethon nhw sefydlu eu hunain yng ngwlad Canaan trwy nerth Duw. 

Ystyr Josua ydy "Mae’r Arglwydd yn achub", neu "Mae’r Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth", a dyna wnaeth Duw wrth helpu’r Israeliaid i goncro pob rhwystr a meddiannu eu gwlad newydd. Fersiwn o’r enw Josua ydy Iesu, a does dim enghraifft mwy o Dduw yn achub na’r hyn wnaeth e trwy Iesu Grist a’r groes. Wrth drystio yn Josua fe aeth pobl Dduw i wlad newydd, llawn o bethau da, ac wrth i ni ymddiried yn Iesu Grist fe gawn ni fywyd newydd.

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod yr Exodus a choncro gwlad Canaan. Mae’n cael ei enwi yn y Testament Newydd, yn y llythyr at yr Hebreaid. Nun oedd enw ei dad, ac roedd ei daid/tad-cu Elishama yn bennaeth llwyth Effraim. Dyma ychydig o ffeithiau am Josua
• Adeg yr Exodus, roedd Josua yn ddyn ifanc
• Cafodd ei ddewis gan Moses i’w helpu.
• Pan ddaeth Caleb a’r ysbiwyr eraill adrodd yn ôl i Moses wedi bod yn edrych ar wlad Canaan, roedd rhai o’r dynion yn credu bod dynion Canaan yn rhy gryf i’w concro. Cefnogodd Josua Caleb oedd am ufuddhau i Dduw a symud ymlaen .
• Roedd yn cadw gwyliadwraeth ar y babell arbennig lle roedd Moses yn mynd i dreulio amser gyda Duw tra roedd llwythau Israel yn teithio tuag at wlad Canaan.
• Cafodd ei ddewis gan Dduw i fod yn olynydd i Moses
• Josua oedd arweinydd yr Israeliaid pan groeson nhw drosodd i wlad yr addewid, gwlad Canaan. Arweiniodd yr Israeliaid i ymladd yn erbyn y bobl oedd yn byw yn y wlad ar y pryd. Ar ôl concro rhannau o’r wlad, mae Josua yn rhannu’r tir rhwng y llwythau.
• Un o’r hanesion mwyaf enwog am Josua ydy hanes Cwymp Jericho
• Roedd yn 110 pan fu farw. Cafodd ei gladdu yn ymyl Timnath Sera.
(gweler Exodus 17:9-14; 24:13; 32:17-33:11; Numeri 13:1-16; 13:16-14.38; 26:65-27:22; 34:17; Deuteronomium 3:21-28; 31:23-32:44; Josua 1:1-15:13; 17:4-24:31; Barnwyr 1:1-2:23; Actau 7:45; Hebreaid 4:8)

 

Enw sydd yn cael ei restru yng nghoeden deuluol Iesu yn Efengyl Luc. Tad Er. Mab Elieser.
(gweler Luc 3: 29)