Jotham:

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu yn Mathew. Ystyr ei enw ydy “Mae Duw yn berffaith”.
• Dyma ddeuddegfed brenin Jwda. Pan ddechreuodd ei dad Usseia ddioddef gyda’r gwahanglwyf (cosb arno am ei falchder), rheolodd Jothan y wlad ar y cyd gyda’i dad am rai blynyddoedd.
• Bu’n rheoli yn ystod y cyfnod tua 750 – 732 C.C.
• Roedd Jotham yn parchu Duw ac roedd yn ceisio ufuddhau iddo. Mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi adeiladu Porth Uchaf y deml.
(gweler 2 Brenhinoedd 15:5-16:1; 1 Cronicl 3:12; 5:17; 2 Cronicl 26:21-27:9; Eseia 1:1; 7:1; Hosea 1:1; Micha 1:1; Mathew 1:9)