Jwdas Iscariot

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu ar y ddaear. Un o ddeuddeg disgybl Iesu Grist. Pan mae awduron y Testament Newydd yn rhestru’r disgyblion, mae’n cael ei enwi yn olaf, gyda’r eglurhad “yr un wnaeth ei fradychu.”
• Mae’r enw Isacriot yn awgrymu ei fod yn dod o le o’r enw Cerioth. Ond mae rhai arbenigwyr yn meddwl efallai fod Jwdas yn aelod o’r sicarii (sy’n dod o sicarius – dagr). Cenedlaetholwyr eithafol oedd y sicarii, pobl oedd yn cario dagr dan eu dillad, ac yn chwilio am gyfle i ladd y Rhufeinwyr oedd yn gormesu eu gwlad. Roedd y sicarii yn casau unrhyw Iddew oedd yn barod i gyfaddawdu gyda’r Rhufeiniaid.
• Hwn oedd “trysorydd” y deuddeg disgybl, ac mae’n bosib ei fod yn anonest wrth drin arian. Mae’n amlwg fod arian yn bwysig iddo – beirniadodd Mair am ddefnyddio ennaint gwerthfawr i eneinio Iesu. Roedd yn credu ei bod hi’n gwastraffu arian.
• Cafodd 30 darn o arian gan yr archoffeiriad am gytuno i fradychu Iesu. Wedi cytuno, arhosodd am ei gyfle, ac ar noson swper olaf Iesu gyda’i ddisgyblion, gadawodd y wledd i fynd at y rhai oedd yn cynllwynio yn erbyn Iesu. Roedd Iesu’n gwybod mai Jwdas fyddai’n ei fradychu. Wedi i Iesu fynd i Ardd Gethsemane i weddïo ar ôl y swper, daeth Jwdas yno gyda milwyr a dangos iddyn nhw pwy oedd Iesu drwy roi cusan ar ei foch (roedd cusan i fod yn arwydd o gyfeillgarwch).
• Ar ôl bradychu Iesu, roedd Jwdas yn flin ei fod wedi gwneud y fath beth – ceisiodd roi’r arian yn ôl, ac yn y diwedd mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi crogi ei hun.
• Er i Jwdas gymryd rhan llawn yn mywyd y disgyblion, yn gwrando ar ddysgeidiaeth Iesu, yn gweld ei wyrthiau, yn mynd allan gyda’r gweddill i wneud gwaith y deyrnas, eto mae’n amlwg na dderbyniodd Iesu fel y Meseia. Rabbi (Athro) ydy’r teitl sy’n cael ei ddefnyddio ganddo ar gyfer Iesu.
(gweler Mathew 10:4; 26:14-47; 27:3; Marc 3:19; 14:10,43; Luc 6:16; 22:3,47-48; Ioan 6:71; 12:4; 13:2,26-29; 18:2-5; Actau 1:16,25 hefyd JWDAS)