Lefiticus 1:1-17

Mae Duw yn byw gyda’i bobl, ac yn Llyfr Lefiticus mae’n dweud wrthyn nhw sut ddylen nhw ei addoli a meithrin perthynas ystyrlon gydag o.

Offrwm i’w losgi’n llwyr (BCN – Poethoffrwm) – dyma’r unig offrwm lle mae’r anifail cyfan yn cael ei losgi’n llwyr.  Roedd yn arwydd o ymgysegriad llwyr i Dduw.  Roedd anifail gwrryw heb nam arno yn cael ei offrymu i Dduw ddwywaith y dydd ar ran y bobl – bore a nos.