Lois

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd Lois yn nain i Timotheus, ac yn fam, mae’n debyg, i Eunice. Yn ôl Paul roedd hi’n wraig o ffydd, a gofalodd hi a Eunice fod Timotheus yn dysgu am yr Ysgrythur pan oedd yn fachgen ifanc iawn.
(gweler 2 Timotheus 1:5)