Luc 1:26-38

 

Chwe mis yn ddiweddarach ymddangosodd yr angel i ferch ifanc o’r enw Mair, a dweud wrthi y byddai hi’n cael babi (er ei bod hi ddim wedi cael rhyw gydag unrhyw ddyn erioed). Byddai'n cenhedlu’r plentyn trwy waith goruwchnaturiol yr Ysbryd Glân - a'i mab hi fyddai'r Meseia.