Luc 1:39-56

 

Aeth Mair i aros at ei pherthynas Elisabeth (gwraig Sechareia) hyd nes i Ioan gael ei eni. Cawn Elisabeth yn proffwydo am y plentyn oedd yng nghroth Mair, a Mair ei hun yn canu salm o fawl i'r Arglwydd am ei drugaredd, ei nerth, ei ffyddlondeb, a'r modd mae'n troi gwerthoedd y byd wyneb i waered. (gw. hefyd Cân Hanna - 1 Samuel 2:1-10)