Luc 12:1-34

 

Roedd argyfwng yn dod ar bobl, a bydden nhw’n cael eu barnu yn ôl y ffordd wnaethon nhw ymateb i weinidogaeth Iesu Grist.] Does dim lle i ragrith ym mywyd y Cristion, a ddylai neb ofni sefyll i fyny dros Iesu Grist hyd yn oed yn wyneb erledigaeth. Does dim rhaid ofni pobl. Duw ydy’r un i’w ofni.
Un o gamgymeriadau mawr pobl ydy gwneud pethau materol yn bwysicach na dim byd arall. Dylai agwedd y Cristion at bethau materol fod yn wahanol – dylai ymddiried yn Nuw, rhannu'r hyn sydd ganddo â'r tlodion, a gwneud y trysor ysbrydol yn bwysicach na dim arall.