Luc 12:33-34

Mae Iesu yn herio ei wrandawyr i osod cyfoeth yn ei gyd-destun, ac i gael eu blaenoriaethau’n iawn. Mae’n gofyn iddyn nhw roi’r pethau sy’n bwysig yn gyntaf. Mae’n ein hatgoffa o’r hyn mae’r Salmydd yn ei ddweud yn Salm 39:6,11.

Mae Diarhebion 19:17 yn dweud fod dangos caredigrwydd at y tlodion yn rhywbeth sy’n plesio Duw yn fawr (cymh. Eseia 58:6-10), a bod Duw yn gwobrwyo’r bobl sy’n gwneud hynny.