Luc 12:5

Gehenna ydy’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu yma yn ‘uffern’. Mae’n dod o’r Hebraeg ge hinnom, sef enw’r ceunant dwfn i’r de o Jerwsalem. Yn nyddiau’r ddau frenin drwg Ahas a Manasse, roedd plant yn cael eu haberthu yno i Moloch, duw’r Ammoniaid (gw. 2 Cronicl 28:3; 33:6; Jeremeia 7:31; 32:35).

Mewn llenyddiaeth Iddewig ddiweddarach Gehenna oedd y lle i bechaduriaid gael eu cosbi.

Erbyn dyddiau’r Testament Newydd dyna lle’r oedd tomen sbwriel Jerwsalem yn llosgi drwy’r amser.