Luc 15:1-32

 

Roedd y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith wedi beirniadu Iesu’n gyson am ei fod yn cymysgu gyda'r bobl oedd yn ‘bechaduriaid’ yn eu golwg nhw. Mae'r ddwy ddameg gyntaf yn sôn am y llawenydd sydd yn y nefoedd pan mae pechadur wedi ei achub.
Yn y drydedd o'r damhegion dyn ni’n gweld y tad yn rhoi croeso i’w fab yn ôl (darlun o agwedd Duw at bechaduriaid), y mab ifanca yn dangos ei fod wedi edifarhau go iawn, ond y mab hynaf yn eiddigeddus ac yn pwdu (oedd yn adlewyrchu agwedd yr arweinwyr crefyddol)
[Yn adn.32 ceir disgrifiad o dröedigaeth Gristnogol cf.Effesiaid 2:1,4-5.]