Luc 19:28-48

 

Mae Iesu'n marchogaeth i Jerwsalem i lawr o fynydd yr Olewydd. Ar ei ffordd mae Iesu'n proffwydo am y dinistr oedd i ddod ar Jerwsalem (Doedd Jerwsalem ddim wedi adlewyrchu ystyr ei henw o gwbl – sef ‘dinas heddwch’).
Yna mae Iesu'n taflu allan y marchnatwyr oedd wedi troi teml Dduw yn ogof lladron.