Luc 2:41

 Roedd y Gyfraith Iddewig yn dweud fod rhaid i bob Iddew deithio i Jerwsalem dair gwaith y flwyddyn, ar achlysur y tair prif Ŵyl flynyddol (gw. Exodus 23:17; 34:23; Deuterenomium 16:16). Y tair gŵyl oedd Gŵyl y Pasg, Gŵyl yr Wythnosau, a Gŵyl y Pebyll. Ond erbyn dyddiau Iesu doedd yr Iddewon ddim yn credu fod rhaid iddyn nhw bererindota deirgwaith y flwyddyn i’r deml. Roedden nhw’n cydnabod fod pererindod yn gysylltiedig â’r gwyliau hyn, ond dim ond unwaith bob ychydig flynyddoedd roedden nhw’n mynd ar bererindod.

Mae rhai traddodiadau rabinaidd, fodd bynnag, yn cyfeirio at unigolion a theuluoedd oedd yn fwy diwyd na’r cyffredin wrth geisio cadw’r gorchymyn i bererindota i Jerwsalem, ond doedden nhw ond yn gwneud hynny unwaith y flwyddyn. Mae’n amlwg fod teulu y bachgen Iesu ymhlith y rhain.