Luc 5:12-6:11

 

Dyn ni’n cael llawer o hanesion am Iesu'n gwrthdaro â'r Phariseaid. Mae’n iacháu’r dyn gwahanglwyfus, ac yn rhoi pwyslais ar gadw cyfraith Moses (adn.14, cf. Lefiticus14). Wedyn, pan iachaodd y dyn wedi ei barlysu, mae'r Phariseaid yn ei feirniadu am ddweud fod ganddo awdurdod i faddau pechodau. Yna maen nhw’n ei feirniadu am gymysgu efo’r math rong o bobl, ac hefyd am fod ei ddisgyblion ddim yn ymprydio'n rheolaidd. [Er bod Iesu'n ymprydio ei hun ar brydiau (cf.Mathew 4:2; 6:16-18) doedd e ddim am i'r arfer fod yn rhywbeth deddfol, caethiwus (cf.Eseia 58:3-11)]. Roedden nhw hefyd yn cyhuddo Iesu o adael i'w ddisgyblion dorri'r Gyfraith Iddewig, ond mae Iesu'n dangos nad oedden nhw wedi deall ysbryd yr Ysgrythurau. Pan iachaodd y dyn ar y Saboth, dangosodd Iesu eu bod nhw’n dewis a dethol beth oedd yn ‘gyfreithlon’ i'w wneud.