Mair Magdalen

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Mae’n bosib ei bod hi’n dod o le o’r enw Magdala. Mae Luc yn dweud fod Iesu wedi rhyddhau’r wraig yma o afael ysbrydion drwg. Pan oedd Iesu ar y groes, roedd Mair Magdalen yn sefyll yn edrych arno gyda’r merched eraill oedd wedi teithio gyda Iesu o Galilea. Mae Ioan yn rhoi hanes Iesu yn dod at Mair ar ôl iddo atgyfodi. Hi oedd un o’r cyntaf i weld y bedd gwag, a rhedodd i ddweud y newydd da wrth Pedr ac Ioan
(gweler Mathew 27:56,61; 28:1; Marc 15:40,47; 16:1,9; Luc 8:2; 24:10; Ioan 19:25; 20:1-18)