Martha

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu, chwaer Mair, a Lasarus. Roedd y teulu yn byw ym mhentref Bethania, tua dwy filltir o Jerwsalem ar y ffordd i Jericho. Daeth Iesu yn ffrindiau agos iddyn nhw. Ystyr yr enw Martha ydy “meistres,” neu “foneddiges”
• Pan ddaeth Iesu atyn nhw fel teulu am bryd o fwyd rhyw ddiwrnod, gwylltiodd Martha wrth weld Mair yn eistedd yn gwrando ar Iesu’n siarad, tra roedd hi’n gwneud y gwaith paratoi i gyd. Mae Iesu yn ei dwrdio mewn ffordd garedig o achos ei diffyg amynedd gyda’i chwaer. Er ei bod hi’n gymeriad gwahanol i Mair, roedd Martha’n caru Iesu yr un mor angerddol.
• Wedi i Lasarus fynd yn wael iawn, anfonodd y ddwy chwaer Mair a Martha am Iesu, ond erbyn iddo gyrraedd yr oedd y brawd wedi marw ac wedi ei gladdu. Wrth weld Iesu mae Martha yn dangos ei ffydd ynddo ac yn dweud na fyddai Lasarus wedi marw petai Iesu yno. Mae hi hefyd yn dweud ei bod yn credu mai Iesu ydy’r Meseia, Mab Duw.
(gweler Luc 10:38-41; Ioan 11:1-40; 12:2)