Mathew

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Ystyr yr enw ydy “rhodd Duw”.
Roedd Mathew yn casglu trethi i lywodraeth Rhufain (Mathew 10:3), ac yn fab i ddyn o’r enw Alffeus. Cafodd Mathew ei alw gan Iesu i adael ei waith fel casglwr trethi er mwyn bod yn un o’r deuddeg disgybl gwreiddiol.
Mae hefyd yn cael ei alw yn Lefi yn Efengyl Luc 5:27.
Doedd Mathew ddim yn gymeriad amlwg iawn yn yr Eglwys Fore. Ychydig iawn rydyn ni’n gwybod amdano, a does dim sôn amdano yn y Beibl ar ôl atgyfodiad Iesu Grist.
Mae Mathew yn cael ei gysylltu gydag Efengyl Mathew – efallai fod peth o’i waith wedi ei gynnwys yn yr Efengyl.
(gweler Mathew 9:9; 10:3; Marc 3:18; Luc 6:15; hefyd LEFI)
 

 Pwy ydy’r awdur?
Cafodd y llyfr hwn ei gysylltu yn gynnar gan yr Eglwys Gristnogol gyda Mathew, y casglwr trethi, mab Alffeus, gafodd ei alw gan Iesu i fod yn un o’r deuddeg disgybl gwreiddiol (Mathew 10:3, Marc 3:18). Mae o hefyd yn cael ei alw yn Lefi yn Efengyl Luc (Luc 5:27). Cafodd enw Mathew ei roi yn deitl ar yr efengyl mor fuan a’r ail ganrif. Ychydig iawn rydyn ni’n gwybod amdano fo, a does dim sôn amdano fo yn y Beibl ar ôl yr atgyfodiad. Mae’n rhesymol i feddwl felly bod Mathew yr apostol wedi chwarae rhan mewn casglu a chofnodi’r Efengyl. Mae Papias (esgob yn Phrygia tua 130 O.C.) yn sôn am “logia” (dywediadau neu efengyl) ysgrifennodd Mathew yn Hebraeg. Ond Groeg oedd iaith wreiddiol Efengyl Mathew. Felly mae rhai ysgolheigion yn meddwl bod y “logia” yma wedi cael eu defnyddio yn Efengyl Mathew hefo deunydd arall.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae rhai ysgolheigion yn credu mai llyfr Marc gafodd ei ysgrifennu gyntaf a bod Mathew a Luc wedi ei ddefnyddio i ysgrifennu eu llyfrau nhw (a hefyd ffynhonnell arall sy’n cael ei galw yn ffynhonnell Q, oedd efallai yn gasgliad cynnar Aramaeg o ddywediadau Iesu a braslun o’i fywyd. Does dim copi ar gael heddiw). Mae ysgolheigion eraill wedi dadlau mai Mathew ydy’r efengyl gynharaf. Yna’n ddiweddar mae grŵp o ysgolheigion yn Jerwsalem wedi dod i’r casgliad mai efengyl Luc oedd y cynharaf. Mae’r mwyafrif yn dyddio Mathew rywle rhwng 68 – 80 O.C. Mae Efengyl Mathew, Marc a Luc yn debyg iawn i’w gilydd ac yn cael eu galw yn Efengylau Synoptig ac mae arbenigwyr yn awgrymu fod y tair ohonyn nhw wedi cael eu hysgrifennu rhwng tua 50 – 80 O.C.

Pam?
Pwrpas yr efengylau ydy rhoi gwybod i bobl am fywyd a geiriau Iesu er mwyn iddyn nhw ddod i gredu ynddo fo a chael bywyd newydd. Mae Mathew yn ysgrifennu yn arbennig at Iddewon er mwyn profi mai Iesu ydy’r Meseia gafodd ei addo gan Dduw yn yr Hen Destament. Mae o’n dyfynnu o’r Hen Destament 62 o weithiau. Mae o’n dangos fel mae popeth gafodd ei ddweud am y Meseia yn yr Hen Destament wedi dod yn wir yn Iesu, e.e.

• ei eni a’i enw
• y daith i’r Aifft
• Herod yn lladd y plant
• byw yn Nasareth
• y bradychu
• y gamblo wrth y groes.

Oherwydd fod Mathew yn targedu Iddewon yn bennaf, dydy o ddim yn egluro arferion Iddewig, er enghraifft ymolchi cyn bwyta, fel mae Marc (cymharer Mathew 15:2 a Marc 7:1-4). Gan fod rhai Iddewon yn disgwyl i Dduw anfon arweinydd gwleidyddol i ryddhau’r genedl o lywodraeth Rhufain, mae Mathew yn rhoi sylw mawr i Iesu fel brenin, a’r hyn ddywedodd o am ‘deyrnasiad yr Un nefol’. Mae Mathew yn sôn am deyrnas nefoedd ble mae Marc a Luc yn defnyddio teyrnas Dduw. Mae hyn eto’n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at Iddewon, gan fod Iddewon yn credu na ddylen nhw ddweud enw Duw. Nodwedd arall o Efengyl Mathew ydy’r ffordd mae o’n cofnodi cymaint o ddysgeidiaeth Iesu, ac yn ei gasglu at ei gilydd yn unedau.

Catrin Roberts

Mae Efengyl Mathew yn llawn o ddyfyniadau o'r Hen Destament (Ysgrifau Sanctaidd yr Iddewon). Mae'r efengyl yn dangos mai Iesu ydy'r Meseia oedden nhw’n disgwyl amdano. Mae'n adrodd hanes bywyd Iesu o'i eni i'w atgyfodiad, ac yn rhoi sylw helaeth i ddysgeidiaeth Iesu.