Mc 1:13

 

Mae’r pedwar deg diwrnod yn ein hatgoffa ni o brofiadau Moses (Exodus 24:18; 34:28) ac Elïas (1 Brenhinoedd 19:8). Mae’n ein hatgoffa hefyd am bobl Israel yn cael eu profi yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd (Deuterenomium 8:2-3).

Roedd llawer mwy o anifeiliaid gwylltion yn Israel yn nyddiau Iesu nag sy heddiw – hienas, siacaliaid, pantherod a hyd yn oed llewod.