Mc 1:14-45

 

Neges Iesu oedd fod teyrnasiad Duw, oedd y proffwydi'n edrych ymlaen ato, wedi dod - dylai pobl ymateb drwy newid eu ffyrdd a chredu'r newyddion da.
Roedd y ffaith fod Duw yn teyrnasu i’w weld yn awdurdod Iesu wrth iddo ddysgu'r bobl, a bwrw allan ysbrydion aflan ac iacháu.
Sylwch – mae’r ysbrydion aflan yn gwybod pwy oedd Iesu (adn.24,34) (cf.Iago 2:19).
Roedd gweddi yn bwysig dros ben yng ngweinidogaeth Iesu – roedd yn cael lle cwbl ganolog yn ei fywyd (adn.35; cf.9:29).