Media

 

Ardal gwlad Azerbaijan a rhan o’r Cwrdistan fodern
• Mae hanes yr Iddewon ym Media i’w weld yn llyfr Esther.
• Yn 550 C.C. pan ddaeth Cyrus, o ymerodraeth Persia i reoli Media, cafodd llawer o’r Mediaid swyddi uchel a phwysig ganddo. (Daniel 6:8,15)
• Cymerodd y Mediaid ran yng nghoncwest Babilon (Eseia 13:17; Jeremeia 51:11, 28). Roedd Darius, arweinydd newydd Babylon yn dod o deulu o Media (Daniel 11:1)
• Roedd pobl o Media yn Jerwsalem ar ddydd y Pentecost ac fe glywson nhw’r Apostolion yn rhannu’r Efengyl.
(gweler Actau 2:9)