Melchisedec

 

Cymeriad yn yr Hen Destament, o gyfnod y Patriarchiaid, sydd yn cael ei enwi yn y llythyr at yr Hebreaid yn y Testament Newydd. Ystyr yr enw ydy “brenin cyfiawnder”.
Roedd Melchisedec yn frenin ar Salem (Jerwsalem) ac yn offeiriad. Pan ddaeth Abram yn ôl o’r frwydr yn erbyn Cedorlaomer a’r brenhinoedd eraill oedd yn rhan o’i gynghrair, rhoddodd Melchisedec fara a gwin iddo a’i fendithio. Rhoddodd Abram un rhan o ddeg o’r ysbail i Melchisedec.
Mae’r enw i’w weld hefyd yn Salm 110. Concrodd Dafydd Jerwsalem rhyw fil o flynyddoedd cyn Crist, ac wrth wneud hynny roedd Dafydd a’i ddisgynyddion yn cymryd drosodd frenhiniaeth ac offeiriadaeth Melchisedec. Roedd Iesu yn un o ddisgynyddion Dafydd, ac felly mae’r Ysgrythur yn dweud ei fod o’n frenin ac yn offeiriad am byth.
(gweler Genesis 14:18-20; Salm 110:4; Hebreaid 5:6 - 7:21)