Mesopotamia

 

• Ystyr yr enw ydy ”gwlad rhwng dwy afon”. Dyma’r enw roiodd y Groegiaid a’r Rhufeiniaid i’r ardal rhwng yr afon Ewffrates a’r afon Tigris (gwlad Irac heddiw). Mae’r enghreifftiau cynharaf o waith ysgrifenedig sy ar gael heddiw yn dod o Mesopotamia, ac oherwydd hynny mae rhai wedi cyfeirio at yr ardal fel “crud gwareiddiad”.
• O’r ardal yma ddaeth cyndeidiau yr Hebreaid (Genesis 11:10-32). Cafodd Isaac hyd i wraig yma (Genesis 24)
• Cadwodd yr ardal ei hannibyniaeth tan ar ôl cyfnod y brenin Dafydd (tua 1,000 C.C.), ond cafodd ei choncro gan Assyria, a daeth yn rhan o’r Ymerodraeth Assyria (2 Brenhinoedd 19:13)
• Mae Ur, Babilon a Ninefe yn rhai o ddinasoedd enwog Mesopotamia.
(gweler Actau 2:9; 7:2)