Micha 1:10-15

Yn yr adnodau yma mae Micha yn chwarae gyda geiriau – mae’n defnyddio enwau gwahanol drefi Israel i rannu ei neges am y ffordd y byddai Duw yn defnyddio byddin Assyria i’w cosbi am eu hanufudd-dod.  Mae enw’r lle yn swnio’n debyg i ryw air arall fyddai’n dod i’r meddwl wrth ddarllen y llinellau.  Dyma rai o’r enwau mae’n chwarae gyda nhw:

  • ‘Gath’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘dweud’
  • ‘Beth-leaffra’ sy’n golygu ‘Tŷ’r llwch’
  • ‘Shaffir’ sy’n golygu ‘hardd’ neu ‘hyfryd’
  • ‘Saänan’ sy’n swnio fel yr Hebraeg am ‘un sy’n mynd allan’
  • ‘Beth-haetsel’ sy’n golygu ‘Tŷ wrth ymyl un arall’ (sy’n awgrymu ‘un sy’n helpu’)
  • ‘Maroth’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘chwerw’
  • ‘Lachish’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘tîm’ neu ‘gwedd’ (o geffylau).  Caer lle roedd ceffylau a cherbydau rhyfel yn cael eu cadw oedd Lachish.
  • ‘Moresheth-gath’ sy’n swnio fel yr Hebraeg am ‘anrheg dyweddïo’ (pan mae’r briodferch ar fin gadael tŷ ei thad).
  • ‘Achsib’ sy’n golygu ‘twyllodrus’ neu ‘siomedig’
  • ‘Maresha’ sy’n swnio fel y gair Hebraeg am ‘concwerwr’