Michael

 

Mae’r Beibl yn disgrifio Michael fel archangel, sef angel sydd ychydig yn uwch na’r angylion eraill. Mae angylion yn negesyddion i Dduw – bodau sanctaidd, pur, sy’n cael dod wyneb yn wyneb â Duw. Mae’r enw Michael yn cael ei ddefnyddio yn llyfr Daniel yn yr Hen Destament, lle mae’n cael ei ddisgrifio fel tywysog sy’n amddiffyn Israel rhag ymerodraethau Groeg a Persia. Yna yn llyfr Jwdas yn y Testament Newydd mae cyfeiriad at Mihangel fel y prif angel, un sy’n ymladd yn erbyn y diafol er mwyn derbyn corff Moses. Mae’r diafol yn dweud fod ganddo hawl i’r corff oherwydd fod Moses yn euog o lofruddiaeth. Yn llyfr y Datguddiad mae Michael yn cael ei ddisgrifio fel angel sy’n rhyfela yn y nefoedd yn erbyn y ddraig fflamgoch. Roedd y ddraig yn cynrychioli’r teyrnasoedd drwg hynny oedd yn gormesu pobl Dduw a’r diafol oedd yn rheoli’r teyrnasoedd hynny (Datguddiad 12:9; 20:2,10).
(gweler Daniel 10:13; 12:1; Jwdas 1:9; Datguddiad 12:7)