Miletus

 

Dinas fasnachol lwyddiannus tua 35 milltir i’r de o Effesus, ar arfordir gorllewin Asia Leiaf (Twrci heddiw). Miletus oedd hen brifddinas yr ardal. Mae’n debyg fod pobl wedi byw yn yr ardal ers yr Oes Efydd.
• Mae’n enwog oherwydd ei chysylltiadau gydag athronwyr Groeg cynnar e.e. Thales, Anaximander ac Anaximenes. Hefyd Hecataeus, croniclwr a dyn oedd yn gwneud mapiau yn gynnar iawn. Roedd Miletus yn enwog fel canolfan athroniaeth a gwyddoniaeth.
• Roedd y ddinas hefyd yn enwog am gynhyrchu gwlân.
• Roedd Miletus yn sefyll allan oherwydd cynllun ei strydoedd. Cafodd y dref ei cynllunio gan bensaer Groegaidd, Hippodamos, yn y 5ed ganrif C.C.. Roedd y strydoedd yn llydan ac yn cysylltu â’i gilydd ar onglau sgwâr. Daeth y math hwn o gynllun yn batrwm i ddinasoedd a threfi Rhufeinig.
• Erbyn cyfnod Paul yn y ganrif gyntaf O.C. roedd yr harbwr yn Miletus wedi dechrau llenwi gyda mwd, ac felly doedd y ddinas ddim mor llewyrchus ag y bu.
• Daeth arweinwyr yr eglwys yn Effesus i gyfarfod gyda Paul yn Miletus ac mae anerchiad Paul iddyn nhw wedi ei gofnodi yn Actau 20. Arhosodd Trophimus yno yn ystod cyfnod o salwch (2 Timotheus 4:20).
• Erbyn heddiw llyn mewndirol ydy’r porthladd. Mae olion hen theatr i’w gweld o hyd, ac mae marciau ar rai o’r seti yn y theatr yn dangos bod y seti hynny yn cael eu cadw i “Iddewon a’r rhai oedd yn ofni Duw”.
(gweler Actau 20:15, 17; 2 Timotheus 4:20)