Moses

 

Cymeriad pwysig iawn yn yr Hen Destament o gyfnod yr Exodus. Trwy Moses, arweiniodd Duw yr Hebreaid allan o gaethiwed gwlad yr Aifft i wlad Canaan. Moses hefyd dderbyniodd y Gyfraith (a’r Deg Gorchymyn) gan Dduw. Awdur y Pentateuch, pum llyfr cyntaf yr Hen Destament.
Dyma brif ddigwyddiadau ei fywyd:
• Yr Hebreaid yn mynd i’r Aifft yn amser Joseff o achos y newyn. Genesis 46. Aros yno a thyfu fel cenedl.
• Ymhen blynyddoedd lawer yr Eifftiaid yn anghofio am gymorth Joseff iddyn nhw (yn paratoi ar gyfer blynyddoedd o newyn), ac yn gorfodi’r Hebreaid i weithio fel caethweision. Hefyd yn ofni bod yr Hebreaid yn bobl rhy niferus, felly yn gorchymyn lladd pob bachgen Hebreig oedd yn cael ei eni. Exodus 1.
• Moses yn cael ei eni, ac yn cael ei guddio mewn cawell yn yr hesg ar yr afon. Merch Pharo yn ei achub (ystyr yr enw Moses ydy “tynnais ef o’r dŵr” Exodus 2.
• Cael ei fagu fel un o deulu Pharo, ond yn dod i ddeall mai Hebrewr oedd go iawn, a gwybod am ddioddefaint ei bobl.
• Achub cam Hebrewr, a lladd Eifftiwr – gorfod dianc am ei fywyd i Midian. Priodi yno. Exodus 2
• Gweld perth yn llosgi yn yr anialwch, ond y berth heb ei difa, a Duw yn ei alw i arwain ei bobl gyda help Aaron ei frawd. Exodus 3, 4
• Mynd yn ôl i’r Aifft. Pharo yn gwrthod gwrando. Exodus 5
• Duw yn anfon y 10 Pla. Exodus 7-12
• Hanes y Pasg cyntaf a lladd oen y Pasg i achub y bobl. Duw yn anfon y degfed pla, sef marw’r cyntafanedig. Pharo yn rhyddhau’r bobl. Exodus 12
• Croesi’r Môr Coch. Exodus 14
• Croesi’r anialwch. Colofn niwl a thân yn eu harwain. Duw yn anfon manna fel bwyd ac yn rhoi dŵr i’r bobl. Exodus 16-17
• Mynydd Sinai – rhoi’r 10 Gorchymyn Exodus 20
• Duw yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch y Tabernacl Exodus 25 ymlaen
• Addoli’r Llo Aur Exodus 32
• Adeiladu’r Tabernacl Exodus 36 ymlaen
• Hanes 40 mlynedd o grwydo’r anialwch
• Moses yn marw cyn cyrraedd gwlad Canaan. Josua yn ei ddilyn fel arweinydd. Deuteronomium 34

Mae Iddewon hyd heddiw yn dathlu Gŵyl y Pasg i gofio am Moses yn arwain y bobl allan o’r Aifft (Yr Exodus). Defnyddiodd Iesu’r Ŵyl i sefydlu Swper yr Arglwydd cyn ei farwolaeth ar y groes. Yn lle aberthu oen, mae Iesu’n aberthu ei hun er mwyn achub pobl, ac yn dweud wrth ei ddisgyblion am fwyta bara ac yfed gwin i gofio am ei aberth (Mathew 26; Marc 14; Luc 22; 1 Corinthiaid 11).
(gweler hefyd Josua 1:5; Salm 77.:20; 103:7; Micha 6.:4; Mathew 8:4; 17:3-4; 19:7-8; 22:24; 23:2; Marc 1:44; 7:10; 9:4,5; 10:3-5; 12:19,26;Luc 2:22; 5:14; 9:30,33;16:29,31; 20:28,37; 24:27; Ioan 1:17,45;3:14; 5:45-46; 6:32; 7:19,22-23; 8:5; 9:28-29; Actau 3:22; 6:11,14; 7:20-44; 13:39; 15:1,5,21;21:21; 26:22;28:23; Rhufeiniaid 9:14-15; 10:5,19; 1 Corinthiaid 9:9; 2 Corinthiaid 3:7,13-15; 2 Timotheus 3:8; Hebreaid 3:2-5,16;7:14; 8:5;9:19; 10:28; 11:23-24; 12:21; Jwdas 9; Datguddiad 15:3)