Mth 18:24

 Mae 'dyled o filiynau lawer' yn ymgais i gyfieithu'r Groeg sy'n dweud 'Deg mil o dalentau'. Roedd dim ond un dalent yn gyfwerth â chyflog oes gyfan i weithiwr cyffredin. Felly mae Iesu'n defnyddio gormodiaith eithafol yma i gyfleu swm oedd y tu hwnt i bob dychymyg.