Mth 2:1

 Pentref bach tua phum milltir i’r de o Jerwsalem oedd Bethlehem. Mae’n debyg fod Mathew eisiau pwysleisio’r cysylltiad gyda’r brenin Dafydd, a’r ffaith fod yr Iddewon yn disgwyl i’r Meseia ddod oddi yno (gw.Ioan 7:42).

Mae’n debyg mai astrolegwyr (neu 'gynghorwyr ysbrydol' o ryw fath) oedd y ‘gwŷr doeth’ – o Dde Arabia neu Persia efallai. Ac mae'n debyg eu bod nhw'n gyfoethog iawn. Gair Mediaidd ydy 'magoi' yn wreiddiol, yn golygu 'offeiriad'. Mae Mathew yn pwysleisio mai nid Iddewon oedd y dynion hyn (gw. hefyd 8:11; 21:43).