Mth 2:1-12

 Mae'r gwŷr doeth (astrolegwyr) yn teithio o wledydd tramor i edrych am frenin yr Iddewon, ac yn disgwyl dod o hyd iddo mewn palas. Ond mae gwerthoedd y deyrnas mae Iesu’n frenin arni yn gwbl wahanol, ac felly'n fygythiad i deyrnasoedd y byd a'u gwerthoedd nhw. [Noder yma eto'r pwyslais ar Dduw yn cyflawni’r hyn oedd wedi ei addo drwy'r proffwyd Micha - cf. Micha 5:2].
Traddodiad sy’n dweud fod tri brenin. Roedd eu hanrhegion yn llawn arwyddocâd – aur i frenin; thus oedd yn cael ei losgi’n berarogl i Dduw, a myrr oedd yn cael ei ddefnyddio i eneinio corff marw.