Mth 2:13-23

 Drwy’r amser, mae hanes cenedl Israel yn dangos bod cynllwynion a chreulondeb pobl ddrwg ddim yn gallu tanseilio a sbwylio cynllun Duw a’i fwriadau da.
Roedd Duw wedi rhagweld pob cam o'r saga, a rydyn ni’n gweld profiad pobl Israel (‘mab’ Duw – Exodus 4:22) yn cael ei ailadrodd ym mhrofiad Iesu (Mab Duw).
Mae Mathew yn pwysleisio fod y tri hanes yn yn yr adran yma yn dod a geiriau’r proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd Iddewig yn wir – y ffoi i’r Aifft (Hosea 11:1), lladd y plant (Jeremeia 31:15) a mynd i fyw yn Nasareth (ble mae Mathew yn chwarae efo’r gair Hebraeg neser sydd yn Eseia 11:1).