Mth 22:20

 

Mae’r gair ‘llun’ (neu ‘eilun’) yn bwysig iawn yn yr hanes yma. Mae pobl wedi eu creu ar ‘lun a delw’ Duw (Genesis 1:26). Mae ateb Iesu yn dweud: Gadewch i Gesar gael yr hyn mae ei eilun e arno, ond yr her ydy i ni roi eu bywydau yn llwyr i Dduw (gan fod ei ‘lun a’i ddelw’ e arnon ni). Duw, felly, biau ein bywydau, ein hamser, ein harian a’n heiddo.