Mth 4:1-11

 Cafodd Adda ei demtio yn yr ardd a syrthiodd. Cafodd Israel ei rhoi ar brawf gan Dduw yn yr anialwch (Deuterenomium 8:2) a methu'r prawf dro ar ôl tro. Ond dyma Iesu’n sefyll yn gadarn yn wyneb pob temtasiwn (Hebreaid 4:15).
Yn yr anialwch cafodd Iesu ei demtio i ddilyn llwybr oedd yn groes i ewyllys Duw. Cafodd ei demtio i geisio darganfod ffordd hawdd o wneud y gwaith oedd o'i flaen, ond gwrthododd blygu i bob temtasiwn.