Mth 4:18

 Mae Llyn Galilea bron 700 troedfedd islaw lefel y môr. Mae’n 14 milltir o hyd a 6 milltir o led, ac yn cael ei fwydo gan yr Afon Iorddonen ucha.

Roedd dau enw arall yn cael eu defnyddio am Lyn Galilea, sef Llyn Genesaret (gw.Luc 5:1 - BCN), a Llyn Tiberias (Ioan 6:1; 21:1).

Mae Mathew a Marc yn defnyddio gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu yn ‘Môr’ fel arfer, er mai am lyn maen nhw’n sôn i fod yn fanwl gywir. Mae Luc yn defnyddio’r gair Groeg mwy manwl am ‘lyn’ bob tro.