Mth 6:1-18

 

Problem y Phariseaid oedd eu bod yn defnyddio crefydd i geisio gwneud iddyn nhw eu hunain edrych yn dda o flaen Duw, ac i geisio dangos i bobl eraill eu bod nhw’n bobl ‘dduwiol’. Tri peth pwysig iawn yn eu golwg nhw oedd rhoi elusen, gweddïo ac ymprydio (gw. Luc 18:11,12). Ond mae Iesu'n dangos fod Duw bob amser yn edrych ar beth ydy’n cymhellion ni – pam ydyn ni’n gwneud pethau.