Mth 6:22

 Mae beibl.net wedi dewis dangos yn glir beth ydy ystyr yr idiomau ‘llygad iach/syml’ a ‘llygad sâl’, sef ‘bod yn hael’ a ‘bod yn hunanol neu’n gybyddlyd’.
Mae’r idiom ‘llygad sâl’ i’w weld yn y Roeg yn Mathew 20:15 ac yn Marc 7:22, a hefyd yn yr Hebraeg yn Diarhebion 23:6; 28:22.

Ond beth am ‘llygad iach/syml’? Mae’r idiom yma i’w weld yn rhai o lawysgrifau Qumran – gw. Testament Issachar 3:4; hefyd 4:1-2,5-6; 5:1, ac mae’n cyfeirio at rywun sy ddim yn llawn cenfigen ac yn ariangar. Gweler hefyd Testament Benjamin 4:2-3; 6:5-7, ble mae bod yn ‘syml’ yn disgrifio rhywun sy’n drugarog, yn gwbl agored a gonest, a ddim yn ddauwynebog.

Yn Luc 11:34 ‘llygad iach’ ydy’r idiom a ddefnyddir, ac mae’r idiom honno i’w weld yn yr Hebraeg yn Diarhebion 22:9.