Mynydd yr Olewydd

 

• Mynydd, neu grib o bedwar mynydd llai na milltir o hyd i’r dwyrain o Jerwsalem. Mae’n codi 200 troedfedd yn uwch na’r ddinas. Wrth adael Jerwsalem rhaid croesi Dyffryn Cidron er mwyn cyrraedd Mynydd yr Olewydd. Yn amser Iesu roedd y llethrau yn llawn o goed olewydd, ond cafodd y coed hyn eu torri yn nyddiau’r Ymerawdwr Titus. Ond ar waelod Mynydd yr Olewydd mae hen, hen goed yno o hyd, coed sy wedi tyfu yno ers canrifoedd.
• Mae pobl yn meddwl bod Gardd Gethsemane ar Fynydd yr Olewydd. Aeth Iesu i weddïo i Ardd Gethsemane cyn cael ei fradychu gan Jwdas.
• Mae llawer o eglwysi i’w gweld heddiw ar ochr y mynydd – e.e. Eglwys yr Holl Genhedloedd, Eglwys Dominus Flevit, Eglwys yr Esgyniad.
(gweler Mathew 21:1; 24:3; 26:30; Marc 11:1; 13:3; 14:26; Luc 19:29, 37; 21:37; 22:39)