Nahum 1:1

Yn wahanol i’r proffwydi eraill, dydy Nahum ddim yn cyhoeddi barn ar ei wlad ei hun (sef Jwda).  Mae’n cyhoeddi barn Duw ar Ninefe, prifddinas Assyria.  Assyria oedd y prif rym gwleidyddol yn y Dwyrain Canol ers 300 mlynedd.  Tua 150 o flynyddoedd cyn dyddiau Nahum roedd Duw wedi anfon y proffwyd Jona i gyhoeddi y byddai Ninefe’n cael ei dinistrio, a bryd hynny roedd pobl Ninefe wedi edifarhau.  Ond aethon nhw yn ôl i’w hen ffyrdd creulon yn fuan iawn.

Daeth proffwydoliaeth Nahum yn wir yn y flwyddyn 612 C.C. pan goncrodd y Mediaid a’r Babiloniaid y ddinas.  Gafodd hi byth ei hail-adeiladu.